SL(5)409 – Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 (O.S. 2013/2506(Cy. 245)) (“Rheoliadau 2013”) sy’n ymwneud â monitro llygredd nitradau a dynodi parthau perygl nitradau.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau 2013 i ddiweddaru’r broses y caiff Gweinidogion Cymru ei defnyddio i ddynodi ardaloedd yn barthau perygl nitradau. Mae’r broses ddynodi gyfredol yn dibynnu ar adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a gaiff ei diddymu unwaith y mae’r Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2013 i gyflwyno diffiniad ar gyfer “daliad newydd” yn sgil y broses ddynodi newydd. 

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2013 er mwyn darparu trefniadau trosiannol ar gyfer daliadau newydd.

Mae rheoliadau 6 i 8 yn gwneud darpariaeth ganlyniadol bellach gan gynnwys cyflwyno gofynion adrodd mewn perthynas â daliadau newydd. 

Gweithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 3(b) yn darparu nad yw rheoliadau penodol yn gymwys tan “ar ôl y flwyddyn y mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau o dan reoliad 11(2) [o Reoliadau 2013], neu’n ychwanegu ato, er mwyn cynnwys y daliad newydd”.

Mae Rheoliad 11(2) o Reoliadau 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fonitro'r crynodiad nitrad mewn dyfroedd croyw; nid yw'n rhoi pŵer iddynt adolygu nac ychwanegu at ddynodi parthau perygl nitradau. Dylai'r cyfeiriad cywir fod at reoliad 11(3) o Reoliadau 2013 sy'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru adolygu neu ychwanegu at ddynodi parthau perygl nitradau.

2. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Rydym yn cwestiynu a oes angen mewnosod rheoliadau 36(3) a 37(4) yn Rheoliadau 2013.

Mae rheoliad 3(b) yn mewnosod rheoliad newydd 4(2) yn Rheoliadau 2013. Effaith rheoliad 4(2) newydd yw gwneud Rhannau 3-8 o Reoliadau 2013 yn gymwys “Mewn perthynas â daliad newydd”.

Gan ddefnyddio rheoliad 12 o Reoliadau 2013 fel enghraifft, “mewn perthynas â daliad newydd… nid yw rheoliadau 12 i 22…yn gymwys hyd ddechrau’r ail flwyddyn galendr ar ôl y flwyddyn y mae Gweinidogion Cymru yn diwygio’r dynodiad o barthau perygl nitradau…”

Mae rheoliad 12 yn darparu “…rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, yn ystod unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170kg wedi’i luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.”

Wrth ddarllen rheoliad 4(2) newydd, bydd y cyfeiriad at 'ddaliad' yn rheoliad 12 o Reoliadau 2013, yn y dyfodol, yn cynnwys 'daliad newydd'.

Byddem yn ddiolchgar felly am eglurhad ynghylch pam mae angen mewnosod rheoliadau 36(3) a 37(4) yn Rheoliadau 2013, pan ddylai'r cyfeiriad at 'ddaliad' yn rheoliadau 36(1) a 37(1) gofnodi 'daliad newydd' yn rhinwedd rheoliad 4(2) newydd. Mewn geiriau eraill, ymddengys y bydd y gofynion sy'n gymwys i ddaliadau newydd o dan reoliadau 36(3) a 37(4) yn cael eu cofnodi mewn unrhyw achos yn rhinwedd rheoliad 4(2) newydd a rheoliadau 36(1) a 37(1).

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yr offeryn hwn yn dod yn rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir.

Ymateb y Llywodraeth

Rydym yn cydnabod bod y cyfeiriadau sydd yn rheoliad 3(b) at “reoliad 11(2)” o Reoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013 yn anghywir. Dylai’r cyfeiriadau cywir fod at “reoliad 11(3)”. Camgymeriad o ran rheoli fersiynau yw hyn, ac fe ddylid ei gywiro er mwyn osgoi camarwain darllenwyr. Bwriadwn gywiro hyn drwy slip cywiro. Bydd y cywiriad yn rhoi cyfeiriadau at “reoliad 11(3)” yn lle’r cyfeiriadau at “reoliad 11(2)” yn rheoliad 3(b).

 

Mae’r ail bwynt adrodd yn ymwneud â’r angen i fewnosod rheoliadau 36(3) a 37(4) yn Rheoliadau 2013. Er ein bod yn cytuno bod y cyfeiriad at ‘daliad’ yn rheoliadau 36(1) a 37(1) yn cynnwys ‘daliad newydd’ yn rhinwedd y rheoliad 4(2) newydd, bwriadwn osgoi unrhyw amheuaeth a gosod rhwymedigaeth y tro cyntaf i gofnodi’r materion yn y lle cyntaf ar gyfer daliad sydd newydd ei ddynodi neu ddaliadau sydd newydd eu dynodi.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

17 Ebrill 2019